Welcome and thanks for coming.
Rydw i wedi creu 10 fideo byr i rannu rhai o’r polisïau rydw i’n cefnogi – gallech chi weld nhw ar Drydar, Instagram, ac yma. Ond dydy y rheini ddim yn rhestr llawn o fy mholisïau.
Rydw i’n cefnogi Cytundeb Gwyrdd Newydd – byddwn i’n mynd ymhellach ac yn annog Llywodraeth Cymru i greu Gwarant Swyddi Gwyrdd; rydw i’n cefnogi “job shares” ar gyfer Aelodau Etholedig ym mhob Senedd, byddwn yn terfynu’r Rhyfel ar Gyffuriau oherwydd rhaid i ni dderbyn bod cyffuriau wedi ennill – gwell fydd eu cyfreithloni, eu safoni a’u trethu (ond er mwyn gwneud hynny mae’n rhaid gweithredu’r ‘Thomas Commission’ a rhoi awdurdodaeth gyfreithiol ei hun i Gymru); diddymu ysgolion preifat yng Nghymru; dod â phrifysgolion clodfawr i Gymru trwy ddysgu “hybrid” ac ar-lein; dw i cefnogi Detholiadau Agored yn ein plaid; gallwn i ddweud mwy…
Ond beth sydd fwyaf pwysig yw dweud fy mod i’n dod o Sir Drefaldwyn; rydw i wedi gweithio ar ffermydd, mewn ffatri, mewn prifysgolion, ysgolion cyfun, swyddfeydd, caffis, siopau, gwyliau cerddoriaeth – dydw i ddim yn rheolwr, yn lobïwr, neu’n gwleidydd gyrfa.
Dydw i ddim eisiau gadael yr ardal yma, rydw i eisiau datganoli pŵer i ardaloedd fel yr ardal yma.
Rydw i nawr yn ofalwr, yn fardd, ac yn athro.
Rydw i eisiau newid y Senedd a gyda hi gwleidyddiaeth yn gyffredinol.
Felly bydda i
Ymrwymo i fynychu 3 cyfarfod Clwstwr Canolbarth & Gorllewin y flwyddyn er mwyn cadw mewn cysylltiad ac i sicrhau ein bod ni’n ymwybodol o gynlluniau a materion o bwys i’n holl gymdogion. Mae Covid-19 wedi dangos sut mae gweithio “hybrid” yn gallu cael effaith fawr ar ein gallu i sicrhau bod holl leisiau’r Canolbarth & Gorllewin yn cael eu clywed.
ac
Ymrwymo i gyfarfod â phob etholaeth o leiaf unwaith y flwyddyn.
ac
Ymrwymo i weithio “hybrid’ ac i fod ym Mhowys am 2/3ydd o’r flwyddyn (os yw rheolau’r Senedd yn fy nghaniatáu); dyma fy nghartref, ces i fy magu yma, does gen i ddim awydd i adael – dyma rywbeth rydw i’n credu bydd yn fy nghadw i’n gweithio ar ein hachosion ni cymaint ag achosion y Grwp Seneddol.